Rhif y ddeiseb: P-06-1172

Teitl y ddeiseb: Gwahardd tân gwyllt rhag cael ei werthu i'r cyhoedd

Geiriad y ddeiseb:

§  Ffrwydryn yw tân gwyllt, a dim ond mewn amgylchedd rheoledig y dylid ei ddefnyddio.

§  Mae’n achosi pryder i bobl sy'n agored i niwed ac i anifeiliaid anwes.  Gallai gael ei ddefnyddio fel arf hefyd.

§  Dylai eitemau fel hyn fod ar gael ar gyfer digwyddiadau trwyddedig yn unig.

 


1.     Y gyfraith ynghylch gwerthu tân gwyllt, bod yn berchen arno, a’i ddefnyddio

Mae cyfyngiadau ar werthu tân gwyllt, bod yn berchen arno, a’i ddefnyddio. Mae Deddf Tân Gwyllt 2003 yn rhoi pwerau i Lywodraeth y DU reoli'r defnydd o dân gwyllt yng Nghymru a Lloegr, a hynny er mwyn lleihau’r risg y bydd tân gwyllt yn achosi marwolaeth, anaf neu drallod ymhlith pobl neu anifeiliaid, neu ddifrod i eiddo.

Mae Rheoliadau Tân Gwyllt 2004 yn gwahardd masnachwyr nad oes ganddynt drwydded rhag gwerthu tân gwyllt i'r cyhoedd, ac eithrio ar ddyddiau sy’n gysylltiedig â 'nosweithiau tân gwyllt a ganiateir' (y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, Diwali, Noson Tân Gwyllt a'r Flwyddyn Newydd). Mae’r rheoliadau hefyd yn gwahardd gwerthu tân gwyllt sydd â lefelau sŵn dros 120 desibel. Mae Rheoliadau Erthyglau Pyrotechnig (Diogelwch) 2015 yn gosod cyfyngiadau oedran ar werthu tân gwyllt, ac yn gwahardd gwerthu tân gwyllt arddangos proffesiynol i'r cyhoedd.

Mae'r Rheoliadau Tân Gwyllt yn ei gwneud hi'n anghyfreithlon i unrhyw un dan 18 oed fod yn berchen ar dân gwyllt 'oedolyn' (sef tân gwyllt ar gyfer yr awyr agored) mewn man cyhoeddus. Mae’r rheoliadau hefyd yn gwahardd defnyddio tân gwyllt rhwng 23:00 a 07:00 heb ganiatâd yng Nghymru a Lloegr (ac eithrio ar nosweithiau tân gwyllt a ganiateir). O dan Ddeddf Ffrwydron 1875 (fel y'i diwygiwyd), mae'n anghyfreithlon cynnau tân gwyllt ar stryd neu mewn man cyhoeddus.

Mae gan awdurdodau lleol bwerau o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 i fynd i'r afael â sŵn sy’n dod o gartrefi neu erddi rhwng 23:00 a 07:00. Os yw'r sŵn yn uwch na’r lefelau a ganiateir, mae gan swyddog iechyd yr amgylchedd yr hawl i gyflwyno hysbysiad rhybuddio i'r person sy'n gyfrifol. Os yw’r person dan sylw yn anwybyddu’r hysbysiad, gellir ei erlyn.

2.     Camau gweithredu

2.1.         Senedd a Llywodraeth y DU

Mae Pwyllgor Deisebau Tŷ’r Cyffredin wedi ystyried sawl deiseb ynghylch camddefnyddio tân gwyllt. Cyhoeddodd adroddiad ar dân gwyllt ym mis Tachwedd 2019.

Nid oedd y Pwyllgor yn cefnogi’r cam o wahardd gwerthu a defnyddio tân gwyllt, gan nodi y gallai gwaharddiad arwain at ganlyniadau anfwriadol, fel cyfyngu ar ddigwyddiadau cymunedol ac annog y broses o greu marchnad ddu. Fodd bynnag, gwnaeth y Pwyllgor sawl argymhelliad, gan ddweud y dylai Llywodraeth y DU gymryd y camau a ganlyn:

§  cyflwyno deddfwriaeth i alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno cynlluniau trwyddedu gorfodol ar gyfer tân gwyllt mewn mannau lle mae camddefnydd yn broblem;

§  adolygu’r terfyn desibel ar gyfer tân gwyllt defnyddwyr, gyda'r bwriad o ostwng y terfyn er mwyn diogelu anifeiliaid yn well;

§  pennu strategaeth ynghylch mynd i'r afael â’r defnydd a wneir o gyfryngau cymdeithasol i werthu tân gwyllt yn anghyfreithlon; ac

§  ariannu a chydlynu ymgyrch ymwybyddiaeth ynghylch defnyddio tân gwyllt yn gyfrifol.

Mewn ymateb, cytunodd Llywodraeth y DU i gydlynu ymgyrch ymwybyddiaeth, ond gwrthododd y rhan fwyaf o'r argymhellion eraill. Dywedodd y byddai'r Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch (yr OPSS) yn casglu tystiolaeth ar dân gwyllt er mwyn caniatáu i'r Llywodraeth ddeall a yw canfyddiadau a phryderon pobl yn cael eu hadlewyrchu mewn tystiolaeth, ac os felly, pa gamau—os o gwbl—sy'n rhai priodol i'r Llywodraeth eu cymryd. Cyhoeddodd yr OPSS wybodaeth am ddatblygu sylfaen dystiolaeth ar dân gwyllt ym mis Hydref 2020, a chyhoeddodd ddadansoddiad o ymddygiadau defnyddwyr a’u hagweddau tuag at dân gwyllt yn y DU ym mis Ebrill 2021.

2.2.         Y Senedd a Llywodraeth Cymru

Ymatebodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i’r ddeiseb hon ar 24 Awst, gan ddweud: ‘Mae effaith tân gwyllt swnllyd ar anifeiliaid a phobl agored i niwed yn peri cryn bryder i Lywodraeth Cymru’ ac amlinellodd gamau gweithredu diweddar.

Ar 14 Ionawr 2020, ysgrifennodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar y pryd at Lywodraeth y DU i alw am ymateb cryf a manwl i argymhellion Pwyllgor Deisebau Tŷ’r Cyffredin. Roedd hi’n cefnogi argymhellion y Pwyllgor ynghylch cynnal ‘adolygiad o derfynau desibelau’ a ‘gwerthiannau ar-lein’ a dywedodd y dylid cynnal deialog ar adolygu pwerau awdurdodau lleol, gan gynnwys trafod a ddylid cyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol.

Gofynnodd Aelodau o’r Senedd gwestiynau llafar am dân gwyllt yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Tachwedd a 18 Tachwedd 2020.

Dywedodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU ar ymgyrch ynghylch defnyddio tân gwyllt yn gyfrifol yn y cyfnod yn arwain at Noson Tân Gwyllt. Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru yn 'awyddus iawn i weithio gydag eraill ar y mater hwn', a'i bod yn 'cynnal trafodaethau gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn Llywodraeth y DU, ac yn wir gyda Llywodraeth yr Alban ynghylch eu cynigion'.

Cyfarfu’r Gweinidog â gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar 28 Ionawr 2021. Ar ôl y cyfarfod hwnnw, ysgrifennodd y Gweinidog at Lywodraeth y DU i godi pryderon nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol yng Nghymru ‘yn ddigonol i ddiogelu pobl agored i niwed ac anifeiliaid rhag effeithiau sŵn tân gwyllt’ ac i fynegi diddordeb yn y newidiadau a wnaed yn yr Alban.

Nododd mai Llywodraeth y DU sydd â phwerau o ran tân gwyllt ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr, a dywedodd y byddai’n croesawu ‘cyd-weithredu’ ar draws Prydain Fawr er mwyn ei gwneud yn fwy anodd i bobl osgoi terfynau daearyddol o ran gwerthiant. Dywedodd hefyd, fodd bynnag:

In the absence of a clear commitment by the UK Government to tighten regulations in England and Wales, towards the end of our meeting I raised the possibility of transferring these powers to Welsh Ministers, enabling the next Welsh Government to make the regulations it considers appropriate. […] You agreed to give the matter further consideration and made a commitment to discuss this with the Secretary of State for Wales. I would welcome an update on this.

 

Yn ei ymateb, dywedodd Paul Scully, Gweinidog y DU dros Fusnesau Bach, Defnyddwyr a’r Farchnad Lafur:

 

I remain committed to considering if it would be appropriate for the Welsh Government to be given additional powers in respect of fireworks. Before advancing on this matter, I would want to wait until the outcomes of commitments the Government has made and the impact of the changes the Scottish Government have implemented have been evaluated.

 

2.3.         Llywodraeth yr Alban

Barn Llywodraeth yr Alban yw bod y defnydd o dân gwyllt yn fater sydd wedi'i ddatganoli i’r Alban, ond bod cyflwyno gwaharddiad ar werthu tân gwyllt yn fater a gedwir gan Lywodraeth y DU. Mae gan Weinidogion yr Alban bwerau i reoli tân gwyllt o dan Ddeddf Tân Gwyllt 2003.

Yn 2020, comisiynodd Llywodraeth yr Alban Grŵp Adolygu Tân Gwyllt i wneud argymhellion ynghylch tynhau deddfwriaeth yn ymwneud â thân gwyllt. Gwnaeth y Grŵp argymell newidiadau i'r gyfraith sy’n ymwneud â’r modd y gellir cael gafael ar dân gwyllt a’i ddefnyddio. Nid oedd y Grŵp yn argymell cyflwyno gwaharddiad ar werthu tân gwyllt.

Mewn ymateb i'r argymhellion, gwnaeth Llywodraeth yr Alban is-ddeddfwriaeth  gan ddefnyddio’r pwerau yn Neddf Tân Gwyllt 2003, er mwyn cyfyngu ar yr adegau yn ystod y dydd pan geir gwerthu a chynnau tân gwyllt, ac er mwyn cyfyngu ar faint o dân gwyllt y gellir ei gyflenwi i'r cyhoedd i 5kg. Mae  Llywodraeth yr Alban hefyd wedi ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth sylfaenol at y dibenion a ganlyn:

§  gosod gofyniad ar oedolion i wneud cais am drwydded cyn y gallant brynu tân gwyllt, gan gynnwys cwblhau cwrs hyfforddiant diogelwch ar-lein a thalu ffi;

§  cyfyngu’r diwrnodau y ceir gwerthu a defnyddio tân gwyllt i gyfnodau a ganiateir;

§  rhoi pŵer i awdurdodau lleol greu ardaloedd dim tân gwyllt, sef mannau lle na chaiff y cyhoedd gynnau tân gwyllt; a

§  gwneud y weithred o werthu tân gwyllt i berson dan 18 oed yn drosedd.

Mynegodd y Prif Weinidog gefnogaeth i argymhellion y Grŵp Adolygu Tân Gwyllt yn y Cyfarfod Llawn ym mis Tachwedd 2020, gan ddweud “pe bydden nhw'n cael eu cyflwyno [y mesurau] ar sail y DU gyfan, byddai Cymru yn sicr yn elwa.”

 

3.     Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020

Pennodd Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020  reolau newydd ar gyfer rheoleiddio nwyddau ledled y DU. Sefydlodd y Ddeddf egwyddorion cydnabyddiaeth gilyddol a pheidio â gwahaniaethu, a'u hymgorffori yng nghyfraith y DU fel Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad.

O dan yr egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol, os yw nwydd yn cydymffurfio â rheolau sy'n ymwneud â'i werthu yn y rhan o'r DU lle cafodd ei gynhyrchu neu ei fewnforio iddi, gellir ei werthu mewn unrhyw ran arall o'r DU heb orfod bodloni’r  safonau yn y rhannau eraill hynny, hyd yn oed os ydyn nhw'n wahanol.

O dan yr egwyddor peidio â gwahaniaethu, nid yw unrhyw reolau sy'n rheoleiddio sut y dylid gwerthu nwyddau mewn un rhan o'r DU sy'n gwahaniaethu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn erbyn darparwyr o rannau eraill o'r DU yn berthnasol yn gyffredinol.

Gallai cyflwyno gwaharddiad ar werthu tân gwyllt yng Nghymru ddod o fewn cwmpas yr Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad. Gallai hyn effeithio ar effaith y gwaharddiad hwnnw a’r gallu i’w orfodi.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.